Mae gadael yr UE wedi newid y ffordd y mae Cymru yn cydweithio ar barodrwydd am glefydau heintus byd-eang, a’u hatal ac ymateb iddynt
Mae adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn casglu bod pandemig y coronafeirws wedi gwthio clefydau heintus i frig yr agenda ar gyfer llywodraethau ledled y byd ac wedi dylanwadu’n sylweddol ar sut y mae’r DU, ac felly Cymru yn cydweithio â phartneriaid rhyngwladol ar glefydau heintus.
Mae’r astudiaeth yn trafod sut y mae ymadawiad y DU o’r UE wedi newid ei pherthnasoedd rhyngwladol a phrosesau ar gyfer ymdrin â bygythiadau clefydau heintus yn y dyfodol.
Dyma’r negeseuon allweddol o’r adroddiad:
- Mae cydweithio rhyngwladol yn bwysig i dri phrif faes o ran paratoi ar gyfer clefyd heintus, ei atal ac ymateb iddo:
- Mae rhannu data a gwybodaeth yn sicrhau bod achosion yn cael eu nodi’n gyflym ac y gellir datblygu ymateb effeithiol, wedi’i gydlynu a’i adolygu er mwyn adlewyrchu’r sefyllfa sy’n newid;
- Mae masnachu meddyginiaethau a nwyddau meddygol yn golygu bod adnoddau’n symud o’r gwledydd sy’n eu cynhyrchu i’r mannau lle mae eu hangen, pan fydd eu hangen;
- Cydweithio ar atal a pharodrwydd, gan gynnwys ymchwil i ddeall clefydau heintus yn well a’u trin ac effaith cytundebau masnach ar arbenigedd y gweithlu gofal iechyd a safonau rheoleiddio.
- Mae Brexit o reidrwydd wedi newid y ffyrdd y mae Cymru/y DU yn gweithio gyda’r UE yn y meysydd hyn. Mae hefyd wedi gweld y DU yn datblygu partneriaethau rhyngwladol newydd.
- Er bod y llinellau amser ar gyfer Brexit a phandemig COVID-19 wedi gorgyffwrdd, roedd llawer o drefniadau ôl-Brexit yn dal i gael eu datblygu. Yr argyfwng iechyd cyhoeddus rhyngwladol nesaf fydd yn profi’r systemau newydd yn llawn yng Nghymru/y DU.
- Mae poblogaeth iach yn fwy cydnerth o ran clefydau heintus. Dangoswyd bod gan Brexit y potensial i effeithio ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru. Dylid ystyried yr effeithiau Brexit hyn yng nghyd-destun atal clefydau heintus, parodrwydd amdanynt ac ymateb iddynt.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.