Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches ymhlith aelodau mwyaf agored i niwed cymdeithas ac mae ganddynt iechyd meddwl gwaeth na’r boblogaeth gyffredinol

Mae adolygiad o dystiolaeth ryngwladol a phrofiadau gwledydd wedi canfod bod gan geiswyr lloches, ffoaduriaid, a phobl eraill sydd wedi’u dadleoli ganlyniadau iechyd meddwl gwaeth na rhai’r boblogaeth gyffredinol.

Mae’r Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol 45: Iechyd Meddwl a Llesiant Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches, hefyd yn rhoi mewnwelediadau o’r Almaen, Iwerddon, yr Iseldiroedd a Sweden ar ddulliau arloesol ac effeithiol o fynd i’r afael ag iechyd meddwl a llesiant pobl sydd wedi’u dadleoli.    

Mae llawer o’r heriau iechyd meddwl a llesiant a nodwyd yn ymwneud â phrofiadau pobl cyn ac ar ôl gadael eu gwledydd cartref. Yn aml, maent yn profi colled bersonol sylweddol, caledi corfforol a sefyllfaoedd eraill o straen o ganlyniad i’w dadleoli. Maent yn aml yn wynebu amodau byw, tai a gweithio gwael. Mae’r straen ychwanegol yn cynnwys diffyg gwybodaeth, ansicrwydd ynghylch statws mewnfudo, gelyniaeth leol bosibl, polisïau llywodraeth sy’n newid, a chael eu cadw heb urddas ac am gyfnodau hir. Mae cyfraddau anhwylderau sy’n gysylltiedig â straen eithafol, fel anhwylder straen wedi trawma (PTSD), yn uwch mewn ffoaduriaid a phobl wedi’u dadleoli na’r boblogaeth gyffredinol. Gallant hefyd ddioddef o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE). 

Mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas y gellir ei wella ymhellach drwy sicrhau eu bod mewn iechyd corfforol a meddyliol da drwy ddarparu mynediad at wasanaethau sylfaenol, diogelwch a chymorth cymdeithasol. 

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig