Mae datrys diabetes gyda’n gilydd yn allweddol er mwyn i bobl fyw bywydau hirach, iachach yng Nghymru

Mae pecyn o fentrau i atal diabetes Math 2, lleihau marwolaethau ac anableddau y gellir eu hosgoi yn rhan o ddull newydd o ddatrys diabetes a ysgogir gan GIG Cymru. Mae’r dull hwn yn ceisio uno arbenigwyr diabetes, clinigwyr, cymunedau a phobl sy’n byw gyda diabetes er mwyn mynd i’r afael ag un o broblemau iechyd mwyaf Cymru.

Mae gan Gymru y nifer uchaf o bobl sy’n byw gyda diabetes yn y DU. Heddiw, mae 220,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes ac erbyn 2035 disgwylir y bydd 48,000 o bobl ychwanegol yn byw gyda’r cyflwr – sy’n cyfateb i un mewn 11 o oedolion. Mae gan 90 y cant o’r rhai sy’n byw gyda diabetes yng Nghymru ddiabetes Math 2, cyflwr difrifol ac weithiau gydol oes sy’n gallu achosi problemau iechyd mawr.  Mae 10 y cant o gyllideb y GIG eisoes yn cael ei wario ar ddiabetes. 

Mae ffocws cryfach ar atal ar draws y system iechyd a darparu gwell cymorth fel y gall pobl sy’n byw gyda diabetes gymryd mwy o reolaeth dros eu hiechyd yn allweddol i wella canlyniadau a throi’r llanw ar y cynnydd yn nifer y bobl sy’n byw gyda diabetes Math 2 yng Nghymru.  

Nod rhaglen Datrys Diabetes Gyda’n Gilydd yw sicrhau newid sylweddol o ran rheoli ac atal diabetes ledled Cymru. Mae’r rhaglen yn defnyddio dull eang, i sicrhau manteision ar draws y system drwy ganolbwyntio ar atal a gofal effeithiol i’r rhai sydd â diabetes. Erbyn 2028, mae’r rhaglen yn ymrwymedig i sicrhau bod llai o bobl yn byw gyda diabetes yng Nghymru, yn ogystal â gwell gofal a chanlyniadau i’r rhai sydd eisoes yn byw gyda diabetes. 

Mae’r rhaglen yn gweithio’n agos gyda byrddau iechyd yng Nghymru a phartneriaid allweddol gan gynnwys Diabetes UK Cymru sy’n datblygu rhaglenni diabetes arloesol yn lleol ac yn profi a ellir cyflwyno’r rhain yn genedlaethol.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig