Mae cynnal gweithredu dan arweiniad y gymuned yn allweddol i adfer ar ôl y pandemig
Mae ymchwil newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac Uned Epidemioleg Integreiddiol y Cyngor Ymchwil Feddygol ym Mhrifysgol Bryste yn awgrymu y gallai harneisio’r cynnydd mewn gweithredu dan arweiniad y gymuned yn ystod yr ymateb i’r pandemig, fod yn allweddol i adeiladu cymunedau mwy cydnerth ledled Cymru, sy’n gallu ymateb yn well i effaith barhaus adfer ac addasu i argyfwng yn y dyfodol.
Yn ystod y pandemig, chwaraeodd pobl ran hanfodol wrth helpu’r rhai mwyaf agored i niwed a helpu asiantaethau swyddogol drwy ddod yn rhan annatod o’r ymateb ehangach mwy ffurfiol i’r pandemig; gyda’r cymunedau eu hunain yn aml yn fwyaf gwybodus am anghenion eu cymuned eu hunain a sut i’w diwallu, a chyda chysylltiadau ac ymddiriedaeth sefydledig.
Er y gall sefyllfaoedd argyfwng o’r fath waethygu gwendidau mewn seilwaith a systemau yn aml, a gwaethygu gwahaniaethau sy’n bodoli eisoes yn ein cymunedau; maent hefyd yn gatalyddion pwerus ar gyfer newid ac yn creu cyfleoedd i drawsnewid mewn adferiad, a gwella’r capasiti i atal a gwrthsefyll heriau tebyg yn y dyfodol.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.