Mae angen cymorth cam-drin domestig a gweithio mwy hyblyg ar fenywod yn ystod argyfyngau iechyd cyhoeddus

Mae angen i gyflogwyr wneud mwy i hyrwyddo gweithio hyblyg i fenywod, a rhoi cymorth i liniaru yn erbyn trais a cham-drin domestig yn ystod argyfyngau fel pandemig Covid-19, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r adroddiad, ‘effaith Pandemig COVID-19 ar Fenywod, Cyflogaeth ac Anghydraddoldebau Iechyd’, yn amlygu sut roedd anghydraddoldebau presennol sy’n wynebu menywod wedi gwaethygu ac effeithio ar eu bywydau gwaith yn ystod pandemig Covid-19.

Mae’n amlygu cyfleoedd i gyflogwyr a’r llywodraeth weithredu i wella iechyd a llesiant menywod, gan gynnwys mynd i’r afael ag amodau gwaith, colli incwm anghyfartal, a chymorth ar gyfer cam-drin domestig a rheolaeth drwy orfodaeth.

Yn ystod y pandemig roedd dros dri chwarter y gweithwyr mewn rolau risg uchel (gan gynnwys gweithwyr gofal, nyrsys, gweithwyr meddygol proffesiynol, parafeddygon, fferyllwyr a bydwragedd) yn fenywod.  Roedd 98 y cant o’r rhai sy’n ymgymryd â’r rolau hyn ac yn cael eu talu o dan y cyflog canolrif yn fenywod.

Mae menywod yn fwy tebygol o fod yn ofalwyr a nhw yw mwyafrif yr unig rieni, ond er gwaethaf hyn mae hanner y ceisiadau am weithio hyblyg gan famau sy’n gweithio yn cael eu gwrthod. Yn ogystal â’r heriau yn y gweithlu, gwelodd Refuge (sefydliad cam-drin domestig mwyaf y DU) gynnydd o 60 y cant mewn galwadau misol yn ystod cyfnod y pandemig ac roedd disgwyl i lawer o fenywod weithio gartref neu gael eu rhoi ar ffyrlo a gynyddodd eu hamlygiad i drais a cham-drin domestig. Mae’r ffigurau hyn yn rhoi darlun heriol o iechyd a llesiant economaidd, meddyliol a chorfforol menywod.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig