Mae adnodd meddwl hirdymor yn helpu sefydliadau i ddiogelu iechyd cenedlaethau’r dyfodol

Mae adnodd newydd i helpu sefydliadau i ddefnyddio meddwl hirdymor i leihau anghydraddoldebau iechyd yn cael ei lansio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.  Mae’n darparu offer ac astudiaethau achos sy’n dangos sut y gallwn symud ymlaen o drin clefydau yn unig i hyrwyddo iechyd da ac atal salwch pryd bynnag y gallwn. 

Gall helpu sefydliadau i feddwl am yr hirdymor wella prosiectau a phrosesau presennol a gwella ansawdd y penderfyniadau pwysig sy’n ysgogi eu gwaith bob dydd. 

Nod yr adnodd newydd yw ysbrydoli’r rhai yng Nghymru a thu hwnt i leihau anghydraddoldeb iechyd drwy archwilio dulliau i alluogi meddwl hirdymor a rhannu astudiaethau achos sy’n dangos sut y mae’r dulliau hynny wedi’u defnyddio yng Nghymru. Mae’n arwain defnyddwyr drwy nodi tueddiadau perthnasol, creu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, a phennu trywydd ar gyfer dyfodol a ddymunir. Mae’r dulliau a drafodwyd yn cynnwys chwilio’r gorwelion, triongl y dyfodol, echelau ansicrwydd a chynllunio senario, ymhlith eraill. 

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig