Mae adnodd meddwl hirdymor yn helpu sefydliadau i ddiogelu iechyd cenedlaethau’r dyfodol
Mae adnodd newydd i helpu sefydliadau i ddefnyddio meddwl hirdymor i leihau anghydraddoldebau iechyd yn cael ei lansio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’n darparu offer ac astudiaethau achos sy’n dangos sut y gallwn symud ymlaen o drin clefydau yn unig i hyrwyddo iechyd da ac atal salwch pryd bynnag y gallwn.
Gall helpu sefydliadau i feddwl am yr hirdymor wella prosiectau a phrosesau presennol a gwella ansawdd y penderfyniadau pwysig sy’n ysgogi eu gwaith bob dydd.
Nod yr adnodd newydd yw ysbrydoli’r rhai yng Nghymru a thu hwnt i leihau anghydraddoldeb iechyd drwy archwilio dulliau i alluogi meddwl hirdymor a rhannu astudiaethau achos sy’n dangos sut y mae’r dulliau hynny wedi’u defnyddio yng Nghymru. Mae’n arwain defnyddwyr drwy nodi tueddiadau perthnasol, creu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, a phennu trywydd ar gyfer dyfodol a ddymunir. Mae’r dulliau a drafodwyd yn cynnwys chwilio’r gorwelion, triongl y dyfodol, echelau ansicrwydd a chynllunio senario, ymhlith eraill.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.