Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’i ddewis i gymryd rhan mewn rhaglen ar ddeall effaith COVID-19 ar newid gwasanaethau ac anghydraddoldebau iechyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’i ddewis gan y Sefydliad Iechyd, elusen annibynnol sydd wedi ymrwymo i sicrhau gwell iechyd a gofal iechyd i bobl yn y DU, i fod yn rhan o’i raglen ymchwil newydd ar COVID-19. Mae’r rhaglen yn ceisio deall effaith y pandemig mewn dau faes penodol:
- sut y mae’r modd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi newid yn sgil COVID-19
- effaith COVID-19 ar anghydraddoldebau iechyd a phenderfynyddion ehangach iechyd.
Mae’r rhaglen ymchwil yn cynorthwyo 10 tîm o bob rhan o’r DU gyda grantiau o rhwng £100,000 a £200,000. Bydd pob prosiect yn rhedeg am hyd at 12 mis.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Anghydraddoldebau Iechyd
Coronafeirws (COVID-19)
Gwasanaethau Gofal Iechyd
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.