Gweinidog yn lansio ‘Cynllun Gweithredu Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd’ gyda chyllid newydd i’r sector rhentu preifat chwarae ei ran
Mae’r Cynllun Gweithredu Digartrefedd yn adeiladu ar y gwaith digynsail sydd wedi’i wneud gan awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol, gwasanaethau cyhoeddus a phartneriaid yn y trydydd sector, sydd wedi darparu llety a chefnogaeth i fwy na 15,000 o bobl sy’n profi neu’n wynebu’r perygl o ddigartrefedd yn ystod y pandemig.
Mae’r Cynllun wedi cael ei lunio ar sail argymhellion y Grŵp Gweithredu Digartrefedd arbenigol annibynnol, gan adlewyrchu’r newidiadau sy’n ofynnol i atal digartrefedd a symud i ailgartrefu’n gyflym fel bod pobl mewn llety dros dro am yr amser byrraf posibl.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.