Gwahoddiad i gymryd rhan mewn arolwg rhanddeiliaid – Asesu’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru

Mae Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthi’n cynnal ymarfer ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ar draws cyrff cyhoeddus yng Nghymru ynghylch Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA). Mae hyn er mwyn llywio datblygiad ein gwasanaeth a’n dull o feithrin gallu a sicrhau bod Asesu’r Effaith ar Iechyd yn cael ei gwblhau i safon uchel yng Nghymru. Mae diffiniad o HIA ar gael yma

Rydym yn atoch i’ch gwahodd i gwblhau arolwg ar-lein fel rhanddeiliad allweddol yng Nghymru. Bydd canlyniadau’r arolwg yn helpu i roi darlun o brofiad, sgiliau a gwybodaeth ynghylch HIA yng Nghymru a byddant yn cael eu defnyddio i lywio ein gwaith yn y dyfodol. 

Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau ac ni fydd angen i chi ateb unrhyw gwestiynau nad ydych chi eisiau eu hateb. Bydd yr holl wybodaeth a rennir yn cael ei thrin yn gyfrinachol, a bydd yr holl ddata yn ddienw.  

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn ein harolwg, dilynwch y ddolen hon. Bydd yr arolwg ar agor tan 05.05.2024.  

Mae rhagor o wybodaeth am HIA, gan gynnwys canllawiau ac adnoddau, ar gael ar ein gwefan.  

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig