Gwahoddiad i gymryd rhan mewn arolwg rhanddeiliaid – Asesu’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru
Mae Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthi’n cynnal ymarfer ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ar draws cyrff cyhoeddus yng Nghymru ynghylch Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA). Mae hyn er mwyn llywio datblygiad ein gwasanaeth a’n dull o feithrin gallu a sicrhau bod Asesu’r Effaith ar Iechyd yn cael ei gwblhau i safon uchel yng Nghymru. Mae diffiniad o HIA ar gael yma.
Rydym yn atoch i’ch gwahodd i gwblhau arolwg ar-lein fel rhanddeiliad allweddol yng Nghymru. Bydd canlyniadau’r arolwg yn helpu i roi darlun o brofiad, sgiliau a gwybodaeth ynghylch HIA yng Nghymru a byddant yn cael eu defnyddio i lywio ein gwaith yn y dyfodol.
Bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau ac ni fydd angen i chi ateb unrhyw gwestiynau nad ydych chi eisiau eu hateb. Bydd yr holl wybodaeth a rennir yn cael ei thrin yn gyfrinachol, a bydd yr holl ddata yn ddienw.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn ein harolwg, dilynwch y ddolen hon. Bydd yr arolwg ar agor tan 05.05.2024.
Mae rhagor o wybodaeth am HIA, gan gynnwys canllawiau ac adnoddau, ar gael ar ein gwefan.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.