Gallai dysgu gwersi o’r pandemig weld gostyngiad hirdymor mewn llygredd aer trefol

Mae blaenoriaethu mynediad at deithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn bwysig er mwyn lleihau teithiau mewn ceir a chysylltiad â llygredd aer i bawb yn ôl casgliad papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan dîm o’r Adran Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn cydweithrediad â chydweithwyr o Iechyd Cyhoeddus Lloegr.

Dywedodd Sarah J Jones, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol ar gyfer yr Adran Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae’r ffordd rydym yn teithio yn effeithio ar i ba raddau rydym yn dod i gysylltiad â llygredd aer a nod yr astudiaeth hon oedd edrych ar sut roedd y cysylltiad yn amrywio i bobl sy’n cerdded, beicio, gyrru neu’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mewn rhai achosion, roedd pobl mewn ceir yn dod i gysylltiad â mwy o lygryddion, mewn eraill, roedd mwy o gysylltiad ymhilth y bobl oedd yn beicio. Mae llawer o ffactorau yn effeithio ar hyn, er enghraifft, lleoliad lonydd beicio a llwybrau troed a sut y mae awyr iach yn cael ei dynnu i mewn i geir. Ond, gwelsom hefyd fod pobl sy’n cerdded, yn beicio ac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn iachach na’r rhai sy’n gyrru.

“Mae pandemig COVID-19 wedi arwain at lawer o newidiadau yn y ffordd rydym yn teithio ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i gefnogi cynifer o bobl â phosibl i ddefnyddio teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig ar gyfer teithiau byr, fel y rhai o amgylch y dref, er mwyn i ni wella ein hansawdd aer i bawb.”

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig