Fframweithiau ac Offer Tegwch Iechyd
Mae Platfform Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru (WHESP) wedi cyhoeddi Erthygl Sbotolau newydd, sy’n tynnu sylw at gamau gweithredu sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Mae Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phlatfform Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru wedi cyhoeddi offeryn tegwch iechyd i gefnogi unigolion, sefydliadau a llywodraethau i wireddu eu nodau tegwch iechyd.
Mae gweithio tuag at degwch iechyd yn dasg heriol ond un hollbwysig. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ceisio eich cefnogi yn y gwaith hwn, beth bynnag fo’ch rôl, drwy lunio ystod o offer cenedlaethol a rhyngwladol sydd wedi’u datblygu i arwain y gwaith hwn mewn gwahanol gyd-destunau.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi trosolwg o 22 o fframweithiau ac offer tegwch iechyd i gefnogi llywodraethau, sefydliadau ac unigolion i weithio tuag at degwch iechyd. Daethpwyd o hyd i fframweithiau ac offer trwy chwilio adnoddau rhyngwladol a chenedlaethol allweddol.
Mae’r Blog Erthygl Sbotolau i’w weld yma.
Mae’r adroddiad hwn yn arddangos offeryn tegwch iechyd i gefnogi unigolion, sefydliadau, a llywodraethau, waeth beth fo’u cyd-destun a’u nodau.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.