Ffocws ar chwarae – Sut mae chwarae’n cefnogi iechyd meddwl plan

Mae Chwarae Cymru wedi cyhoeddi rhifyn newydd o Ffocws ar chwarae, sy’n ystyried rôl allweddol chwarae plant wrth hybu lles ac iechyd meddwl cadarnhaol. Mae wedi’i anelu at Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ac mae’n trafod ffyrdd y gall cynlluniau lleol a rhanbarthol gefnogi chwarae.

Yn y rhifyn hwn o Ffocws ar chwarae, maent yn archwilio:

  • sut mae chwarae yn cyfrannu at les uniongyrchol a thymor hir, iechyd corfforol, iechyd meddwl a gwytnwch plant
  • y polisïau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n deddfu ar gyfer ac yn cymeradwyo chwarae fel rhywbeth hanfodol i iechyd a lles plant
  • gwaith chwarae a rôl gweithwyr chwarae wrth gefnogi darpariaeth chwarae plant
  • pwysigrwydd cydgynhyrchu a sicrhau dulliau integredig at chwarae a lles
  • sut y gall Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gyfrannu.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig