Cydraddoldeb Rhywedd yng Nghymru
Mae mynd i’r afael â chydraddoldeb rhywedd yn gofyn am ddull cynhwysfawr sy’n ceisio lleihau anghydraddoldeb, yn cryfhau economïau ac yn meithrin cymdeithasau sefydlog a gwdyn sy’n rhoi cyfle i bawb ffynnu. Mae cydraddoldeb rhywedd yn hawl dynol sylfaenol, ni waeth ymhle yr ydych yn byw. Dylai dynion a menywod allu cyfrannu’n llawn ar draws amryw agwedd ar fywyd, boed hynny yn y cartref, yn y gweithlu, neu mewn agweddau eraill ar fywyd. Fodd bynnag, mae anghydraddoldebau rhywedd parhaus yn bodoli sy’n cael effaith ddifrifol ar brofiadau bywyd cyffredinol. Mae tystiolaeth wedi dangos bod menywod yng Nghymru yn wynebu heriau sy’n cael effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol ar eu hiechyd. Dengys hefyd fod grwpiau du ac ethnig leiafrifol a menywod anabl a rhiant unigol yn wynebu anghydraddoldebau iechyd gwaeth sy’n gysylltiedig â statws cymdeithasol ac economaidd. Mae trais, trais domestig a thrais rhywiol hefyd yn effeithio’n anghymesur ar fenywod. Drwy gysoni ymdrechion i hyrwyddo tegwch rhywedd gydag amcanion economaidd-gymdeithasol ehangach, gall Cymru greu llwybr tuag at ddyfodol iachach a mwy ffyniannus i bawb sy’n byw yno. Yn yr e-fwletin hwn rydym wedi cynnwys amrywiaeth o erthyglau sy’n arddangos mentrau ac arferion gorau wrth hyrwyddo tegwch iechyd a chydraddoldeb rhywedd yng Nghymru.
Rhifyn
Gorffennaf 2024
Rhifyn blaenorol
Dulliau seiliedig ar leoedd i wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau Mehefin 2024
Darllen MwyRhifynnau diweddar
Gweld pob rhifyn arall
Edrychwch ar rifynnau eraill o’n E-Fwlein i ddarllen mwy am ein testunau.
Gweld pob rhifynCyfrannu at ein e-fwletinau
A oes gennych chi adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith trwy ychwanegu at ein e-fwletinau.
Bydd ein ffurflen cyflwyno erthyglau yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am nifer y geiriau, cynllun eich erthygl ac arweiniad ar gyfer delweddau