Dod â theithio llesol i mewn i’r Cwricwlwm newydd
Mae’r Rhaglen Teithiau Iach, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi creu adnodd newydd yn unol â chwricwlwm newydd Cymru, yn ymwneud â theithio llesol. Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, helpodd ein gwaith gydag ysgolion ledled Cymru i gynyddu lefelau teithio llesol 24.6% a lleihau’r defnydd o geir gan 29.9% ar y daith i’r ysgol, a gobeithiwn barhau â hyn gyda chymorth ein hadnodd newydd.
Mae’r adnodd yn declyn hwyliog a deniadol i helpu i ddysgu’r manteision a’r llawenydd y gall cerdded, olwynio, sgwtera a beicio dod i blant.
Nid yn unig yn ddefnyddiol i’r plant ond mae’r adnodd hefyd wedi’i gynllunio i gynorthwyo gallu athrawon i gynllunio a chyflwyno sgiliau trawsgwricwlaidd o fewn cyd-destun teithio llesol.
Bydd yr adnodd hwn yn cyfoethogi profiad plentyn o gerdded, olwynio, sgwtera a beicio, gan gysylltu â’r pedwar diben, a gallai fod yn ychwanegiad defnyddiol at becyn cymorth unrhyw athro neu athrawes wrth ddylunio gwersi. Bydd y gwersi hyn yn helpu disgyblion i ystyried manteision amgylcheddol ac iechyd corfforol a meddyliol cerdded, olwynio, sgwtera a beicio.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.