Cynnydd mewn heintiau anadlol ymhlith plant yng Nghymru cyn y gaeaf

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni i fod yn ymwybodol o’r arwyddion o salwch anadlol mewn plant ifanc, gan fod data’n dangos bod achosion yn cynyddu’n sydyn.

Mae gwyliadwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod samplau positif Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) wedi cynyddu dros y pedair wythnos ddiwethaf yn olynol o 1.9 y cant i 9.9 y cant.

Mae rhieni yn cael eu hannog i gadw llygad am symptomau haint difrifol ymhlith plant mewn perygl, gan gynnwys tymheredd uchel o 37.8°C neu uwch (twymyn), peswch sych a chyson, anhawster bwydo, anadlu cyflym neu swnllyd (gwichian ar y frest).

Mae heintiau anadlol mewn plant ifanc wedi dechrau codi y tu allan i’r tymor, yn dilyn lefelau heintio isel mewn ymateb i gyfyngiadau COVID-19 a’r mesurau rheoli heintiau da sydd wedi bod ar waith.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig