Cynnydd da yn erbyn cynllun gweithredu atal gordewdra gofal sylfaenol – adroddiad newydd

Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud yn erbyn cynllun gweithredu i wella cymorth rheoli pwysau mewn gofal sylfaenol a chymunedol, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r adroddiad newydd yn dweud bod gweithgarwch sylweddol wedi digwydd mewn perthynas â 24 o 29 o gamau gweithredu a nodir yn y Cynllun Gweithredu Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol.  Fodd bynnag, mae llawer mwy i’w wneud o hyd, yn enwedig mewn meysydd sy’n ehangach o ran cwmpas nag atal gordewdra.
Mae’r adroddiad hefyd yn gwneud cyfres o argymhellion i sicrhau bod cynnydd yn parhau.  
Mae’r rhain yn cynnwys yr angen i:

  • Gynnal ac adeiladu ar fomentwm a gyflawnir mewn meysydd gwaith allweddol, gan gynnwys iechyd a llesiant ôl-enedigol, ymgorffori atal gordewdra mewn llwybrau clinigol, a datblygu adnoddau ar gyfer y gweithlu gofal sylfaenol a chymunedol.
  • Deall effaith gweithgareddau drwy werthuso, er enghraifft datblygiadau cytundebol i gynorthwyo atal mewn gofal sylfaenol.  
  • Mynd i’r afael â heriau i gynnydd sy’n gysylltiedig ag atal yn fwy eang nag atal gordewdra yn unig, er enghraifft ar ddatblygiadau digidol a llesiant y gweithlu.

Ochr yn ochr â’r adroddiad, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cyhoeddi ffeithlun i helpu gwneuthurwyr polisi, ymarferwyr ac ymchwilwyr i gynorthwyo rheoli pwysau ôl-enedigol yn well mewn gofal sylfaenol a chymunedol.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig