Cyhoeddi cynllun brechu Covid newydd

Bydd yr holl oedolion cymwys yn cael cynnig brechlyn Covid erbyn y hydref, o dan gynlluniau uchelgeisiol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Daw wrth i’r ffigurau diweddaraf ddangos bod mwy na 86,000 o bobl wedi cael y brechlyn yn ystod pum wythnos gyntaf y rhaglen. Bydd Cymru’n cyhoeddi ffigurau brechu dyddiol o heddiw ymlaen.

Dyma’r tair carreg filltir a nodir yn y cynllun:

  • Erbyn canol mis Chwefror – holl breswylwyr a staff cartrefi gofal; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; bydd pawb dros 70 oed a phawb sy’n eithriadol agored i niwed yn glinigol wedi cael cynnig brechlyn.
  • Erbyn y gwanwyn – bydd brechlyn wedi’i gynnig i’r holl grwpiau blaenoriaeth cam un eraill. Mae hyn yn bawb dros 50 oed a phawb sydd mewn perygl oherwydd bod ganddynt gyflwr iechyd sylfaenol.
  • Erbyn y hydref – bydd brechlyn wedi’i gynnig i bob oedolyn cymwys arall yng Nghymru, yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI).

Yn dibynnu ar cyngor pellach gan JCVI gall tua 2.5m o bobl ledled Cymru cael cynnig brechlynnau Covid erbyn mis Medi. Mae’r cynllun yn dibynnu ar gyflenwadau digonol a rheolaidd o’r brechlynnau yn cael eu dosbarthu.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig