Cyfrifoldeb ar gyflogwyr i gefnogi iechyd meddwl staff – meddai’r Gweinidog

Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, wedi pwysleisio pa mor bwysig yw cefnogi iechyd meddwl yn y gweithle ar ymweliad â chyflogwr sy’n arwain y ffordd yn y maes hwn.

Ymwelodd Ms Murphy â’r ymgynghoriaeth brandio ac arwyddion Morgans Consult yng Nghaerdydd ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd – sy’n canolbwyntio eleni ar ‘iechyd meddwl yn y gwaith’ – i weld drosti ei hun sut maen nhw wedi elwa ar Wasanaeth Cymorth yn y Gwaith Llywodraeth Cymru.

Mae’r gwasanaeth yn darparu cymorth therapiwtig i helpu pobl gyflogedig a hunangyflogedig sydd â chyflyrau iechyd meddwl neu gorfforol i aros mewn gwaith. Rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mehefin 2024, cafodd mwy na 3,500 o bobl gymorth gan y gwasanaeth.

Ar ôl cynnal sesiwn hyfforddi Llesiant yn y Gweithle i ddechrau, mae Morgans Consult wedi hyfforddi saith o Hyrwyddwyr Llesiant ers hynny ac wedi ffurfio grŵp llesiant fel y gallan nhw gefnogi ei gilydd drwy weithdai rheolaidd.

Maen nhw hefyd wedi cyflwyno sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrio, gwella’r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael drwy sicrhau mynediad at wasanaethau cwnsela a chynnal arolwg llawn o lesiant pob aelod o staff.

Ar ôl yr ymweliad, dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Sarah Murphy:

“Roedd yn wych ymweld â Morgans Consult a gweld sut maen nhw’n arwain y ffordd o ran sesiynau hyfforddi Llesiant yn y Gweithle diolch i’n Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith.

“Mae cyfrifoldeb ar gyflogwyr i gefnogi iechyd meddwl staff a sicrhau bod cymorth ar gael yn rhwydd ac yn hygyrch.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi iechyd meddwl pobl sy’n aros mewn gwaith a’r rhai sy’n dychwelyd i’r gwaith, gan y bydd hyn yn cynnig manteision clir i unigolion, sefydliadau a chymunedau.”

Dywedodd Michael Kitchen, Rheolwr Pobl MS-Group:

“Mae’r gweithdai llesiant yn MS-Group wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar forâl a chynhyrchiant gweithwyr.

“Mae cyfranogwyr wedi cyfrannu’n wych, mae llawer wedi trafod sut mae eu hiechyd meddwl wedi gwella, ac rydyn ni wedi datblygu ymdeimlad cryfach o gymuned yn y gweithle.”

Hefyd, yn gynharach yr wythnos hon, cymerodd y Gweinidog ran mewn symposiwm rhithwir gyda Canopi, sef gwasanaeth cymorth iechyd meddwl cyfrinachol a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer staff y GIG a staff gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’n cynnig cymorth iechyd meddwl am ddim mewn ffordd amserol i unigolion sy’n teimlo nad ydyn nhw’n gallu cael gafael ar opsiynau cymorth eraill a gynigir gan wasanaethau drwy gyflogwyr.

Ers 2022, mae Canopi wedi cefnogi mwy na 7,000 o staff y GIG a staff gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, manteisiodd 3,702 o bobl ar y gwasanaeth a derbyniodd 1,800 o bobl Therapi Ymddygiad Gwybyddol.

Yn ddiweddar, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y Strategaeth Ddrafft Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol a’r Strategaeth Ddrafft Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio i Gymru. Bydd yr ymatebion, sydd bellach dan ystyriaeth, yn cael eu cyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig