Cydweithredu rhyngwladol ar iechyd yn arwain at fuddiannau i bawb

Mae’r Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (y Ganolfan) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi galw am wneud rhagor i gynorthwyo, cryfhau a hyrwyddo gweithgarwch iechyd rhyngwladol a byd-eang, er budd pobl yng Nghymru a thu hwnt.

Wrth i Gymru symud i gam adfer pandemig y Coronafeirws, mae adroddiad cynnydd y Ganolfan ar gyfer 2018-2022 yn rhoi manylion ynghylch sut roedd cydweithio â gwledydd eraill yn ystod yr argyfwng wedi galluogi GIG Cymru i fod yn fwy cydnerth ac yn gyfrifol yn fyd-eang.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at rôl, cyflawniadau, ffyrdd o weithio, strwythurau cydweithredol a gweithgareddau’r Ganolfan; ac mae’n amlinellu datblygiad y Ganolfan mewn perthynas â datblygiadau byd-eang, yn y DU, yn genedlaethol ac yn lleol. Mae’r rhain yn cynnwys heriau a chyfleoedd fel y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (‘Brexit’), pandemig COVID-19 a’r argyfwng ‘costau byw’. Mae’n dangos yr offer a ddefnyddiwyd i alluogi dysgu a rennir, hwyluso synergeddau ar draws y GIG ac ar draws sectorau, a sicrhau’r buddiannau mwyaf posibl i iechyd a llesiant pobl Cymru a thu hwnt.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig