Coronafeirws (COVID-19)

Beth yw COVID-19?

Mae clefyd Coronafeirws (COVID-19) yn glefyd heintus a achosir gan feirws SARS-CoV-2.

Bydd y rhan fwyaf o bobl sydd wedi eu heintio gan y feirws yn profi salwch anadlol ysgafn i gymedrol ac yn gwella heb fod angen triniaeth arbennig arnynt. Fodd bynnag, bydd rhai yn mynd yn sâl iawn ac angen sylw meddygol. Mae pobl hŷn a’r rheiny â chyflyrau meddygol sylfaenol fel clefyd cardiofasgwlaidd, diabetes, clefyd anadlol cronig, neu ganser yn fwy tebygol o ddatblygu salwch difrifol. (WHO, 2022)

Y ffordd orau o atal ac arafu trosglwyddiad yw cael gwybodaeth am y clefyd a sut mae’r feirws yn lledaenu.

Mae’r arweiniad ar y mesurau sydd eu hangen mewn ymateb i Coronafeirws ar gael ar wefannau Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae mwy o adnoddau ar gael, a amlinellir isod.

Adborth

Rydym yn croesawu adborth ar y detholiad hwn, ac awgrymiadau ar gyfer ffynonellau ychwanegol a allai fod o ddiddordeb i aelodau.

Cysylltu a ni →