Bydd 48,000 o bobl ychwanegol â diabetes yng Nghymru erbyn 2035
Gallai tua un o bob 11 o oedolion yng Nghymru fod yn byw gyda diabetes erbyn 2035 os yw’r tueddiadau presennol yn parhau, yn ôl dadansoddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Ddiwrnod Diabetes y Byd.
Byddai hyn yn 48,000 o bobl ychwanegol â’r clefyd a chynnydd o 22 y cant o gymharu â 2021/22.
Byddai cynnydd fel hyn yn rhoi pwysau ychwanegol sylweddol ar wasanaethau iechyd. Ar gyfartaledd, costiodd cyfnodau yn yr ysbyty a oedd yn gysylltiedig â diabetes £4,518 fesul cyfnod yn yr ysbyty i GIG Cymru yn 2021/22, heb gynnwys cyfnodau sy’n ei gwneud yn ofynnol cael trychiadau. Gwariwyd £105 miliwn ar gyffuriau i reoli diabetes yng Nghymru yn 2022/23.
Mae dros 200,000 o bobl yng Nghymru eisoes yn byw gyda diabetes, sef tua wyth y cant o oedolion. Mae gan tua 90 y cant o’r achosion hyn ddiabetes math 2, a gallai dros hanner ohonynt gael eu hatal neu eu hoedi drwy newidiadau mewn ymddygiad.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.