Atgoffa pobl yng Nghymru sut i helpu i atal heintiau anadlol rhag lledaenu

Wrth i ysgolion baratoi ar gyfer dychwelyd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynorthwyo’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Dr Chris Jones, wrth atgoffa pobl i aros gartref ac osgoi cysylltiad ag eraill os ydynt yn sâl ac â thymheredd uchel.

Gall heintiau anadlol, fel y ffliw a COVID-19, ledaenu’n hawdd rhwng pobl. Mae symptomau’n amrywio o beswch parhaus, gwres neu deimlo’n oer, poenau yn y cyhyrau neu boenau nad ydyn nhw o ganlyniad i ymarfer corff, dolur gwddf, trwyn yn llawn neu’n rhedeg, dolur rhydd, teimlo’n sâl a thaflu i fyny.

Nid yw COVID-19 wedi diflannu ac mae’n parhau i ddatblygu a newid.

Mae rhaglen frechu’r hydref yng Nghymru yn dechrau ar 11 Medi. Bydd brechiadau rhag y ffliw a COVID-19 yn cael eu cyflwyno i bobl dros 65 oed, pobl yn y grwpiau risg a’r rhai sy’n gweithio neu’n byw gyda phobl sy’n agored i niwed.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig