Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022
Mae canlyniadau arolwg mawr a gynhaliwyd gan Chwaraeon Cymru wedi pwysleisio’r angen am wneud gweithgareddau chwaraeon yn fwy deniadol, addas a chroesawgar i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Mae Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022, a oedd yn casglu barn mwy na 116,000 o ddisgyblion rhwng 7 ac 16 oed, wedi canfod nad yw dros draean o ddisgyblion yn gwneud unrhyw weithgarwch rheolaidd trefnus y tu allan i’w gwersi Addysg Gorfforol (AG). Mae’r ffigwr wedi codi o 28% i 36%, sy’n peri dychryn, ers i’r arolwg gael ei gynnal ddiwethaf yn 2018.
Mae canlyniadau’r arolwg hefyd yn dangos bod anghydraddoldebau hirdymor yn parhau o ran cyfranogiad chwaraeon. Mae bechgyn yn fwy actif na merched, ac mae plant ag anableddau, namau neu anawsterau dysgu yn parhau i wneud llai.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.