Animeiddiad newydd yn dangos manteision defnyddio dull Economi Llesiant yng Nghymru

Mae animeiddiad newydd a gynhyrchwyd gan y Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, un o Ganolfannau Cydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn esbonio’r cysyniad o’r Economi Llesiant a’i dull a’i chymhwyso yng Nghymru, mewn fformat hawdd ei ddeall.

Mae economïau llesiant yn canolbwyntio ar bobl a’r blaned dros elw a chymorth i ddatblygu cymunedau a chymdeithasau ffyniannus, tecach, iach yn ogystal â hyrwyddo ymddiriedaeth mewn llywodraethau a gwasanaethau cyhoeddus.  Maent yn darparu polisïau, cyllid, ac arferion cynaliadwy, mwy teg ac effeithiol drwy ymgysylltu cyhoeddus, preifat a dinesig eang, cydgynhyrchu a gweithredu ar y cyd. 

Mae’r economi llesiant yn gweithio drwy fuddsoddi i gynhyrchu cyfalaf llesiant dynol, cymdeithasol, amgylcheddol, ac economaidd.  

Yng Nghymru, mae’r dull economi llesiant yn gysylltiedig â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n ailddiffinio nodau datblygu economaidd er mwyn blaenoriaethu llesiant y boblogaeth. 

Mae GIG Cymru yn sector economaidd allweddol sy’n cyfrannu at y newid i economi llesiant yng Nghymru, gan ysgogi’r economi leol drwy gaffael, creu incwm a chyflogaeth leol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio’n agos gyda Sefydliad Iechyd y Byd, Llywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd ledled Cymru i lywio’r gwaith o wneud penderfyniadau a blaenoriaethu gwariant, creu a defnyddio tystiolaeth, arfer gorau, ac arbenigedd rhyngwladol, a datblygu offer a dulliau arloesol. 

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig