Cerys Preece
Uwch Ymarferwr Iechyd Cyhoeddus
Gweithiodd Cerys yn flaenorol fel Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd i Dimau Lleol Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf ar ystod o destunau gwella iechyd, ac arweiniodd dîm rhoi’r gorau i smygu (SSW) fel Uwch Gynghorydd. Ers 2015, mae wedi bod yn Uwch Ymarferydd i’r is-adran Gwella Iechyd Cenedlaethol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda’r prif ffocws ar alcohol, Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) a phrifysgolion a cholegau iach.
Mae gan Cerys gefndir mewn datblygu cymunedol ar ôl dechrau ei gyrfa ym maes iechyd y cyhoedd a’r sector elusennol a rhaglen flaenllaw Cymunedau yn Gyntaf. Mae Cerys yn eiriolwr brwd o weithio’n gydweithredol ac mewn partneriaeth ac mae’n fentor ac yn asesydd i gynllun UKPHR. Ymunodd Cerys â’r tîm ym mis Medi 2021 ac mae’n angerddol am leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Read about our other team members

Catherine Evans
Network Co-ordinator

Marie Griffiths
Network Co-ordinator

Jamie Lee-Wyatt
Admin & Resource Officer

Christian Heathcote-Elliott
Principal Public Health Practitioner

Dr Ciarán Humphreys
Consultant in Public Health