Adroddiad newydd yn profi bod prosiectau iechyd seiliedig ar natur yn arbed amser ac arian i’r GIG
Gallai rhaglenni iechyd a lles seiliedig ar natur arbed cannoedd ar filiynau o bunnoedd bob blwyddyn a lleihau dibyniaeth cymdeithas ar y GIG, yn ôl adroddiad newydd gan yr Ymddiriedolaethau Natur.
Canfu Gwasanaeth Iechyd Naturiol: Gwella Bywydau ac Arbed Arian fod presgripsiynu gwyrdd yn gallu arbed mwy o gostau gofal iechyd na phris cynnal cynllun presgripsiynu gwyrdd.
Presgripsiynu gwyrdd yw un o gonglfeini presgripsiynu cymdeithasol wedi’i seilio ar dystiolaeth sy’n manteisio ar y buddion iechyd, lles a chymdeithasol a ddaw yn sgil treulio amser ym myd natur. Mae’n galluogi meddygon teulu ac ymarferwyr gofal iechyd eraill i atgyfeirio pobl i raglenni seiliedig ar natur i wella iechyd corfforol a meddyliol.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.