Adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dadansoddi anghydraddoldebau o ran brechu COVID-19 yng Nghymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi paratoi adroddiad sy’n dadansoddi anghydraddoldebau o ran cwmpas brechu COVID-19 yn ôl rhyw, amddifadedd economaidd-gymdeithasol a grŵp ethnig.
Gan adlewyrchu tuedd ar draws y DU mae’r adroddiad, sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 8 Rhagfyr 2020 hyd at 14 Chwefror 2021, yn amlygu anghydraddoldebau sy’n dod i’r amlwg o ran cwmpas brechu COVID-19 yng Nghymru.
Canfu’r adroddiad bod yr anghydraddoldeb mwyaf o ran canran y rhai sy’n cael eu brechu i’w weld ymhlith grwpiau ethnig mewn oedolion 80 oed a throsodd. Roedd canran y rhai a gafodd eu brechu yn y grwpiau cyfunol Du, Asiaidd, Cymysg ac ethnigrwydd arall yn y grŵp oedran hwn yn 71.5 y cant o gymharu ag 85.6 y cant yn y grŵp ethnig Gwyn, sef bwlch o 14.1 y cant.
Roedd anghydraddoldebau hefyd yn amlwg rhwng oedolion sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Mewn oedolion hŷn, roedd y bwlch cydraddoldeb rhwng y rhai sy’n byw yn y cwintelau mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig o ardaloedd yng Nghymru yn 5.7 y cant, 4.4 y cant a 5.2 y cant ar gyfer oedolion 80 oed a throsodd, 75 i 79 oed a 70 i 74 oed yn y drefn honno.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.