Dyddiad + Amser
10 Gorffennaf 2024
11:00 YB - 12:00 YP
Beth yw manteision economaidd sicrhau iechyd a llesiant y gweithlu yng Nghymru? Pa ymyriadau sy’n effeithiol ac yn gost-effeithiol mewn perthynas ag iechyd yn y gweithle? A pha gymorth sydd ei angen ar gyflogwyr llai i roi ymyriadau a dulliau llesiant ar waith?
Wedi’i chadeirio gan Mary-Ann McKibben, Ymgynghorydd-arweinydd Cymru Iach ar Waith (Iechyd Cyhoeddus Cymru), bydd y weminar hon yn clywed gan academyddion sydd wedi gwneud gwaith ymchwil a gwerthuso i ddeall beth sy’n gweithio mewn perthynas â dulliau iechyd yn y gweithle.
Jacob Davies, Swyddog Cymorth Prosiect Ymchwil ac Ymgeisydd Staff PhD yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Prifysgol Bangor, yn rhoi mewnwelediad i’r canfyddiadau ac yn trafod y mathau o ymyriadau sy’n debygol o fod yn fwyaf cost-effeithiol wrth wella llesiant yn y gwaith.
Bydd Nigel Lloyd (tîm PHIRST Connect a ariennir gan NIHR ym Mhrifysgol Swydd Hertford) yn amlinellu canfyddiadau gwerthusiad o gymorth iechyd a llesiant yn y gweithle mewn busnesau bach a chanolig (SMEs) yn Walsall, gan ganolbwyntio’n benodol ar y prif rwystrau a nodwyd i Ymgysylltu a gweithredu SME a sut y gellid mynd i’r afael â nhw.
Deilliannau dysgu:
Cadeirydd
Mary-Ann McKibben, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ac arweinydd Cymru Iach ar Waith, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Siaradwyr
Jacob Davies, Swyddog Cymorth Prosiect Ymchwil ac Ymgeisydd Staff PhD yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Prifysgol Bangor
Nigel Lloyd, Uwch Gymrawd Ymchwil, PHIRST a ariennir gan NIHR, Prifysgol Swydd Hertford
10 Gorffennaf 2024
11:00 YB - 12:00 YP
Gweminar
A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.