14 Tach
Online

Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru yn dathlu 20 mlynedd

Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

14 Tach

Dyddiad + Amser

14 Tachwedd 2024

1:00 YP - 3:00 YP

Math

Ar-lein

Math

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae’r dirwedd Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) wedi newid yn aruthrol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi bod yn rhan ganolog o HIA ers sefydlu’r uned yn 2004. Bydd y weminar hon yn gyfle i’r rhai sy’n bresennol edrych ar sut mae WHIASU wedi datblygu fel Uned dros yr 20 mlynedd diwethaf. Rhoddir diweddariad ar ddatblygiadau diweddaraf y Rheoliadau HIA gan gynrychiolydd o Lywodraeth Cymru, ceir golwg gyntaf ar ddogfen astudiaethau achos HIA ar gyfer cyrff cyhoeddus gyda dwy enghraifft fyw, yn ogystal â thrafodaeth banel yn edrych ar ble y gallai HIA fod mewn 20 mlynedd arall. Bydd cyfle hefyd i’r rhai sy’n bresennol ofyn unrhyw gwestiynau yn ymwneud â HIA i’r panel o arbenigwyr.

Canlyniadau Dysgu:

  • Dysgu sut mae WHIASU wedi datblygu fel Uned dros yr 20 mlynedd diwethaf a sut mae wedi cyfrannu at ddatblygiad ymarfer HIA, gyda’r bwriad o weld sut y bydd y Rheoliadau HIA yn cael effaith wrth symud ymlaen.
  • Rhoi syniad i’r rhai sy’n bresennol o sut mae HIA yn cael ei gynnal yn ymarferol. Bydd dwy astudiaeth achos yn cael eu cyflwyno, a rhoddir cyflwyniad i’n dogfen astudiaethau achos a fydd yn cael ei chyhoeddi ar y diwrnod.
  • Dechrau meddwl am sut y bydd HIA yn datblygu dros yr 20 mlynedd nesaf trwy drafodaeth banel gydag arbenigwyr ym maes HIA.

Dyddiad + Amser

14 Tachwedd 2024

1:00 YP - 3:00 YP

Math

Ar-lein

Cyfrannu at ein digwyddiadau

A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.

Nodi problem

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

Yn ôl i'r brig