Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
Dydd Iau 5 Medi 2024
With Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae heriau digynsail i’n hiechyd a’n llesiant o ganlyniad i newid hinsawdd, gan ei gwneud yn hanfodol deall ei effeithiau ac ymateb yn rhagweithiol iddynt. Yn y weminar hon, gwnaethom ymchwilio i rôl hollbwysig gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd yng Nghymru.
Mae gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd yn hollbwysig wrth nodi, monitro a lliniaru effeithiau andwyol newid hinsawdd ar iechyd. Drwy gasglu a dadansoddi data, gallwn drosi gwybodaeth yn wybodaeth sy’n llywio’r gwaith o ddatblygu a gwerthuso polisïau cenedlaethol a strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i amddiffyn cymunedau a gwella gwydnwch.
Roedd y digwyddiad hwn yn arddangos y safbwyntiau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, gan bwysleisio sut mae gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd yn hanfodol i addasu i risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd a’u lliniaru.
Canlyniadau Dysgu:
Siaradwyr:
Giri Shankar – Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Louisa Nolan, Pennaeth Gwyddor Data, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Behrooz Behbod – Epidemiolegydd Ymgynghorol, Y Ganolfan Wyliadwriaeth ar gyfer Clefydau Trosglwyddadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Melissa Fallon – Epidemiolegydd (Arbenigwr Dadansoddi Gwybodaeth), Iechyd Cyhoeddus Cymru
Laura Andrews – Dirprwy Bennaeth Uwch-Ddadansoddeg a Modelu, Cyngor ar Wyddoniaeth a Thystiolaeth
Mark Humphrys – Is-adran Cyngor ar Wyddoniaeth a Thystiolaeth, Llywodraeth Cymru
Sarah Jones – Ymgynghorydd Diogelu Iechyd yr Amgylchedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Lisa Wise – Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Newid Hinsawdd ac Iechyd y Cyhoedd Amgylcheddol, Cyfarwyddiaeth Iechyd a Llesiant, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru
Rebecca Masters – Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'