17 Hyd
Online

Cyflwyniad i egwyddorion ymddygiad, newid ymddygiad a gwyddor ymddygiad cymhwysol

Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

17 Hyd

Dyddiad + Amser

17 Hydref 2024

2:00 YP - 3:00 YP

Math

Ar-lein

Math

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae ymddygiad yn chwarae rhan allweddol mewn gwella iechyd a llesiant. Mae nodi a deall ymddygiadau a ffactorau sy’n dylanwadu arnynt, a’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r ffactorau hyn yn hanfodol i gyflawni uchelgeisiau polisi ac arfer iechyd y cyhoedd. Bydd y weminar hon yn archwilio rôl hanfodol ymddygiadau wrth wella iechyd a llesiant Cymru, yn archwilio’r hyn a olygwn wrth ymddygiad ac yn ystyried yr ystod o ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad gan ddefnyddio modelau a fframweithiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Deilliannau Dysgu

  • Gwell dealltwriaeth o rôl ymddygiadau a gwyddor ymddygiad ym maes iechyd y cyhoedd
  • Mwy o ymwybyddiaeth o’r ystod o benderfynyddion ymddygiadol a’u pwysigrwydd fel meysydd ffocws ar gyfer gweithredu iechyd y cyhoedd
  • Gwybodaeth am fframweithiau damcaniaethol y gellir eu defnyddio i nodi penderfynyddion ymddygiadol ar gyfer gweithredu ym maes iechyd y cyhoedd
  • Wedi ystyried ffyrdd y gallech chi gynnwys gwyddor ymddygiad yn eich gweithredoedd ar gyfer gwell iechyd
  • Mwy o wybodaeth am yr Uned Gwyddor Ymddygiad a sut i gael mwy o gefnogaeth i’ch ymdrechion i gynyddu’r defnydd o wyddor ymddygiad yn eich gwaith

Dyddiad + Amser

17 Hydref 2024

2:00 YP - 3:00 YP

Math

Ar-lein

Cyfrannu at ein digwyddiadau

A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.

Nodi problem

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

Yn ôl i'r brig