Dyddiad + Amser
22 Ebrill 2026
1:00 YP - 2:00 YP
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adroddiad ar ran Grŵp Cydlynu Adeiladu Cymru Iachach, o’r enw Cysylltiadau Gwell, Canlyniadau Gwell ar gyfer Tlodi Plant . Bydd y weminar hon yn rhannu canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad hwn. Bydd yn cyflwyno offeryn hunanasesu y gall cyfranogwyr ei ddefnyddio i gefnogi cydweithio ar draws pynciau.
Mae modd osgoi tlodi plant a’i ganlyniadau o ran iechyd, ond mae cymryd camau effeithiol i leihau tlodi plant yn gofyn am gydweithio cyson a hirdymor mewn partneriaethau ledled Cymru. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod cydweithio yn parhau i fod yn her ac roeddem am ddeall beth y gellid ei wneud i gefnogi hyn ar bob lefel.
Yn 2025, cwblhawyd adolygiad llenyddiaeth gennym i nodi nodweddion sefydliadau a systemau sy’n galluogi cydweithio effeithiol. Yna gwnaethom asesu a yw’r nodweddion galluogi hyn o gydweithio effeithiol yn bresennol mewn partneriaethau tlodi plant ar draws pob sector, trwy arolwg a chyfres o gyfweliadau.
Fe wnaethom nodi meysydd helaeth o arferion da mewn nifer o bartneriaethau lleol a rhanbarthol ledled Cymru yr ydym yn bwriadu eu rhannu, yn ogystal â nodi camau galluogi (yn aml ar lefel genedlaethol) a fyddai’n cefnogi arferion cydweithredol lleol a rhanbarthol.
Canlyniadau Dysgu:

22 Ebrill 2026
1:00 YP - 2:00 YP
Ar-lein
A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.