DIGWYDDIADAU BLAENOROL

Daeth y digwyddiad i ben.

Mae'r digwyddiad hwn bellach wedi mynd heibio. Gweler isod am ragor o fanylion am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad hwn.

Newid Ymddygiad ac Ymddygiad Caethiwus

Dydd Iau 4 Mai 2017
With Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Trefnwyd y seminar ar y cyd â Phrifysgol Bangor gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Newid Ymddygiad mewn perthynas ag ymddygiad caethiwus, ac i hysbysu cynadleddwyr am dystiolaeth sy’n esblygu a phresennol a nodi blaenoriaethau ar gyfer ymchwil ac ymarfer yn y dyfodol.

Cadeiriwyd y seminar gan Malcolm Ward, Prif Arbenigwr Hybu Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac fe’i agorwyd gan Rob Roger sydd wedi ei leoli yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor.

Dilynwyd hyn gan ddau gyflwyniad oedd yn canolbwyntio ar alcohol. Rhoddodd Marc Mordey o Alcohol Concern gyflwyniad o’r enw ‘Barddoniaeth, pêl-droed, dawnsio neuadd, a ffyrdd eraill o leihau niwed alcohol’ i fynd i’r afael ag ymddygiad yn ymwneud ag alcohol. Rhoddodd yr Athro Miles Cox o Brifysgol Bangor gyflwyniad ar Effeithiau Gwahaniaethol a Llwybr Amserol Hyfforddiant Sylwadol ac Ysgogiadol ar Yfed Eithafol (Rhan 1 a Rhan 2).

Roedd y ddau gyflwyniad nesaf yn canolbwyntio ar gamblo. Cyflwynodd yr Athro Simon Dymond o Brifysgol Abertawe gyflwyniad o’r enw Ble yn y byd mae gamblo? Safbwynt Cymreig (Rhan 1 a Rhan 2) a siaradodd Wynford Ellis Owen o Ystafell Fyw Caerdydd am Drechu’r Ods – menter i helpu gamblwyr eithafol.

Roedd y cyflwyniadau nesaf yn canolbwyntio ar gamddefnyddio sylweddau gyda chyflwyniadau gan Dr Wolf Livingston o Brifysgol Glyndwr ar Gamddefnyddio Sylweddau: Dadansoddi cyfraniad polisi a darpariaeth i ganlyniadau a hefyd Dr Lee Hogan gyda’r teitl Hwyluso adferiad i driniaeth.

Cynhaliwyd tri gweithdy yn ystod y prynhawn:

Therapi Derbyn ac Ymrwymo (ACT) ar gyfer camddefnyddio sylweddau: Dr Lee Hogan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr / Prifysgol Bangor
Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif: Rhiannon Hobbs, Uwch Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cyfweld Ysgogiadol a Chwnsela – ‘Y Rhaglen Gwella a Datblygu Bywyd ar gyfer yfed llai.’: Dr Steven Hosier, Prifysgol Bangor


Newid Ymddygiad ac Ymddygiad Caethiwus: Cyflwyniad ac Marc Mordey (Saesneg yn unig)

Newid Ymddygiad ac Ymddygiad Caethiwus: Athro Miles Cox (Saesneg yn unig)

Newid Ymddygiad ac Ymddygiad Caethiwus: Dr Lee Hogan (Saesneg yn unig)

Newid Ymddygiad ac Ymddygiad Caethiwus: Dr Wolf Livingston (Saesneg yn unig)

Newid Ymddygiad ac Ymddygiad Caethiwus: Wynford Ellis Owen (Saesneg yn unig)

Newid Ymddygiad ac Ymddygiad Caethiwus: Professor Simon Dymond (Saesneg yn unig)


Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol

Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod

    If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'


    Nodi problem

    Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
    Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

    Yn ôl i'r brig