Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
Dydd Iau 29 Chwefror 2024
With Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rhoddodd y weminar hon drosolwg o benderfynyddion ehangach gwaith yr Uned Iechyd mewn perthynas ag addysg fel penderfynydd iechyd ac yn canolbwyntio ar ddefnyddio dull mapio systemau cyfranogol i ddeall y llwybrau cymhleth sy’n dylanwadu ar ganlyniadau cyflawniad addysgol yng Nghymru. Disgrifiodd y weminar y dull gweithredu, rhoddodd drosolwg o’r map a sut rydym wedi ei ddefnyddio a thrafod y dysgu o ddefnyddio’r dull hwn fel offeryn ar gyfer gweithio gydag eraill i ddeall a rheoli materion iechyd cyhoeddus cymhleth.
Gallai hyn fod o ddiddordeb i bobl sy’n gweithio gydag addysg neu’n ystyried datblygu map systemau yn y dyfodol.
Deilliannau Dysgu:
Cyflwynwyr:
Christian Heathcote-Elliott – Prif Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus, Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cathrine Winding – Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus, Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael ar gais
Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod
If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'