Ymestyn rhaglen iechyd meddwl Amser i Newid Cymru am dair blynedd
Nod canolog Amser i Newid Cymru yw herio a newid agweddau ac ymddygiadau negyddol tuag at salwch meddwl. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol: partneriaethau, cyflogwyr a’r gweithlu, iechyd a gofal cymdeithasol, a marchnata cymdeithasol. Mae’r ymgyrch yn cael ei chyflwyno gan bartneriaeth rhwng dwy elusen flaenllaw yng Nghymru, sef Mind Cymru ac Adferiad Recovery.
Bydd y cyfnod newydd o waith yn canolbwyntio’n benodol ar weithio gyda chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a chyflogwyr mewn ardaloedd o dlodi ac amddifadedd. Yn ystod blynyddoedd blaenorol, mae’r rhaglen wedi canolbwyntio ar gynyddu cysylltiadau â dynion drwy’r ymgyrch Mae Siarad yn Hollbwysig, yn ogystal â chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n cymryd rhan.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.