Arolwg Defnyddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ei arolwg blynyddol ar ei allbynnau data a gwybodaeth.
Nod yr arolwg yw deall sut mae unigolion a sefydliadau yn defnyddio ein gwaith, yr effaith y mae’n ei chael a’r hyn y gallwn ei wneud i wella.
Dywedodd Kirsty Little, Ymgynghorydd Arweiniol ar gyfer rhannu gwybodaeth
“Fel sefydliad, ein nod yw ysbrydoli camau gweithredu sy’n cael effaith ar iechyd y cyhoedd trwy wybodaeth hygyrch, amserol o safon ragorol. Rydym am sicrhau ein bod yn rhoi anghenion rhanddeiliaid wrth wraidd yr wybodaeth a grëwn.
“Drwy lenwi’r arolwg, bydd modd i chi ein help ni i ddeall pa mor dda y mae ein cyflawniad ar hyn o bryd, a llywio’r hyn y byddwn ni’n ei wneud yn y dyfodol. Hoffen ni hefyd eich annog chi i rannu’r arolwg gyda’ch cydweithwyr a’r rhanddeiliaid rydych chi’n gweithio gyda nhw. Po fwyaf o sylwadau rydyn ni’n eu casglu, mwyaf fydd effaith ein harolwg.
“Rhoddodd arolwg y llynedd adborth defnyddiol iawn sydd eisoes wedi’i ddefnyddio i lunio gwaith ar bersonâu defnyddwyr, datblygu’r we, safonau cyhoeddi a’r fframwaith effaith.
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi ymlaen llaw am gymryd rhan.”
Mae modd cyrchu’r arolwg trwy’r ddolen isod tan ddiwedd Mai ac mae’n gwbl ddienw.
Arolwg Defnyddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â [email protected].
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.