Y Gymraeg
Cefndir
Sefydlwyd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru (RhICC) yn 2015 ac mae’n dwyn ynghyd bedwar rhwydwaith blaenorol a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae ganddo ryw 2700 o aelodau, gan gynnwys y rheiny sy’n gweithio ym maes iechyd cyhoeddus, y GIG, awdurdodau lleol, y trydydd sector a’r sector preifat. Nod RhICC yw llywio, hwyluso a chreu cysylltiadau ar gyfer y rheiny sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat er mwyn gwella iechyd a lles y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau iechyd.
Mae gan RhICC wefan sy’n cynnwys amrywiaeth o wybodaeth, adnoddau a’r newyddion diweddaraf. Gall aelodau gofrestru fel eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ein digwyddiadau, y newyddion diweddaraf a chynnwys arall.
Mae gan RhICC drefniant archebu yn ôl y gofyn ar waith gyda Trosol, sy’n gallu darparu gwasanaethau cyfieithu ar gyfer deunydd ysgrifenedig a chyfieithu dilynol / cyfieithu ar y pryd. Ar hyn o bryd, mae dau aelod o dîm RhICC yn siarad Cymraeg.
Cyd-destun
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ffyrdd presennol ac arfaethedig tîm RhICC o weithio, ac mae wedi cael ei llywio gan Safonau’r Gymraeg, Hysbysiad Cydymffurfio Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Cod Ymarfer Drafft, Rheoliad rhif 7 (isod). Gofynnodd tîm RhICC am arweiniad a chyngor gan dîm iaith Iechyd Cyhoeddus Cymru lle mae elfennau o’r safon wedi bod yn anodd i’w dehongli ac i wirio ystyr ein dealltwriaeth.
Cymhwyso Safonau’r Gymraeg
Gohebiaeth
Mae RhICC yn gohebu ag aelodau yn ddwyieithog, yn unol â Safonau Cyflenwi Gwasanaethau 1 – 7 Safonau’r Gymraeg. Pan fydd aelod newydd yn cofrestru i ymuno â RhICC, gofynnir iddo am y dewis iaith sy’n cael ei gofnodi ar gronfa ddata ein haelodau. Ar hyn o bryd, anfonir pob gohebiaeth, e.e. e-fwletin, cyhoeddiad am ddigwyddiadau, yn ddwyieithog.
Wrth ohebu trwy’r e-bost ag unigolion am y tro cyntaf, rydym yn cadw nodyn o ddewis iaith ar gronfa ddata ein tîm. Mae gan RhICC gronfa ddata ganolog hefyd y gellir ei defnyddio i wirio dewis iaith.
Cyfarfodydd
Ystyrir dewis iaith wrth gynnal cyfarfodydd, yn unol â Safonau Cyflenwi Gwasanaethau 21 – 22. Mae hyn yn berthnasol i gyfarfodydd gyda’n Grŵp Cynghori neu yn ystod cyfarfodydd wrth gynllunio digwyddiadau a chynadleddau.
Cyhoeddusrwydd
Mae unrhyw ddeunydd sy’n cael ei greu i hyrwyddo gwaith RhICC yn ddwyieithog, yn unol â Safon Cyflenwi Gwasanaethau 33 Safonau’r Gymraeg.
Dogfennau a ffurflenni
Mae gan RhICC ddogfennau a ffurflenni sy’n cael eu creu fel rhan o swyddogaeth ein gwefan. Mae enghreifftiau’n cynnwys ffurflenni
- i ymuno fel aelod
- i gyfrannu at ein gweminarau
- gwerthuso ein digwyddiadau, a rhoi adborth arnynt
- arolwg blynyddol aelodau.
Mae’r rhain yn ddwyieithog, yn unol â Safon Cyflenwi Gwasanaethau 36 – 38 Safonau’r Gymraeg.
Gwefan
Adnewyddwyd gwefan RhICC yn 2021 ac mae’n cydymffurfio â Safonau Cyflenwi Gwasanaethau 39 i 42 Safonau’r Gymraeg.
Cyfryngau Cymdeithasol
Mae gan RhICC bresenoldeb ar Twitter, gyda chyfrif Cymraeg a Saesneg, ac mae’n cydymffurfio â Safonau Cyflenwi Gwasanaethau 45 a 46 Safonau’r Gymraeg.
Cyrsiau
Mae RhICC yn cynnal nifer o weminarau, gweithdai hyfforddi a chynadleddau yn ystod y flwyddyn (cyfeirir atynt yma fel cyrsiau). Mae’r cyrsiau hyn ar amrywiaeth o destunau a themâu, ac yn cyd-fynd â’n nod i ‘rannu gwybodaeth o ystod amrywiol o safbwyntiau, gan gynnwys polisi, ymchwil ac arfer, i wella iechyd a lles y boblogaeth’. Mae hyn yn cyd-fynd â Safon 63 Safonau’r Gymraeg sy’n berthnasol i ‘“gyrsiau addysg” sy’n golygu unrhyw seminar, hyfforddiant, gweithdy neu ddarpariaeth debyg, a ddarperir er mwyn addysgu neu i wella sgiliau unigolion’.
Digwyddiadau
Gallai RhICC gynnal digwyddiadau o dro i dro, fel gweithdai neu gynadleddau nad ydynt yn benodol i wella addysg a sgiliau unigolion, er enghraifft trafodaethau cydweithredol ar ymchwil, ymyriadau polisi neu gynllunio gweithredu. Gallai RhICC gynnal digwyddiadau ar y cyd â phartneriaid eraill hefyd sydd wedi’u hanelu at bobl yn eu rhinwedd broffesiynol. Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu hystyried a’u hasesu yn unigol; mae camau wedi’u hamlinellu yn adran 3.1 i 3.6 y ddogfen hon.
Asesu angen
Yn unol â Safon 63 Safonau’r Gymraeg, rhaid cynnal asesiad sy’n ystyried yr angen i gynnig y cwrs hwnnw yn Gymraeg, a chynnig y cwrs yn Gymraeg os yw’r asesiad anghenion yn nodi hynny.
Mae gan RhICC dros 2,700 o aelodau, y mae 12 ohonynt wedi nodi mai eu dewis o ran cyfathrebu yw’r Gymraeg. Nid ydym yn dal set lawn o ddata o ran dewis iaith oherwydd nad yw aelodau wedi cwblhau eu manylion personol yn llawn. Mae gwaith ar y gweill o fewn ein tîm i wella’r data rydym ni’n ei ddal ar ein haelodau, ac i’w hannog i lenwi eu manylion personol yn llawn.
Rhwng 10/03/22 a 23/11/22, edrychodd 14,692 o ddefnyddwyr ar dudalennau Saesneg RhICC, a 33 o ddefnyddwyr ar y tudalennau Cymraeg.
Yn ystod ein cyrsiau yn 2022 – 2023, nid oes unrhyw gyflwynwyr na chyfranogwyr sydd wedi mynegi awydd i gymryd rhan yn Gymraeg, nac i gynnwys y cyrsiau gael ei gyflwyno yn Gymraeg.
Ar ôl ystyried yr asesiad angen, credwn fod yr angen presennol am gyrsiau Cymraeg penodol yn isel. Bydd ailasesiad angen yn cael ei gynnal bob blwyddyn (cynhelir yr asesiad nesaf ym mis Ionawr 2024).
Y broses bresennol
Pan fydd ein haelodau’n cofrestru ar gyfer cwrs, gofynnir iddynt beth yw eu dewis iaith ac y gallant gyfrannu yn Gymraeg yn ystod ein gweminarau, ein gweithdai a’n cynadleddau. I fynychu’r weminar fyw, rhaid i chi gofrestru (fel aelod neu westai), ac nid oes cyfyngiadau ar bwy all gofrestru. Fodd bynnag, ein cynulleidfa darged ar gyfer RhICC yw gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn gwella iechyd poblogaeth Cymru a’i chymunedau. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Gweithwyr proffesiynol Iechyd Cyhoeddus Cymru (timau canolog a lleol)
- Proffesiynau iechyd cyhoeddus ehangach (e.e. Swyddogion Iechyd Amgylcheddol; Nyrsys Ysgol, Ymwelwyr Iechyd)
- Academia
- Staff Byrddau Iechyd Lleol
- Llywodraeth Cymru
- Llywodraeth Leol
- Sefydliadau’r trydydd sector
- Sefydliadau’r sector preifat
Mae oddeutu 90% o’n haelodau (ond mae’n debygol fod mwy oherwydd bod ein set ddata yn anghyflawn) o’r sectorau hyn.
Gall unrhyw un gofrestru ar gyfer cwrs, a’i fynychu. Mae’r rheiny sy’n mynychu’r gweminarau yno i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau eu hunain, ac nid ydynt yn mynychu fel cynrychiolwyr eu sefydliadau. Felly, mae’r cwrs wedi’i anelu at unigolion, yn unol â Safon 63.
Yn ystod ein cyrsiau, gofynnir i gyflwynwyr, hwyluswyr a siaradwyr a hoffen nhw gyfrannu yn Gymraeg, ac os felly, darperir gwasanaethau cyfieithu. Mae cyflwynwyr a siaradwyr ar ein cyrsiau o gyrff sy’n dod o dan Safonau’r Gymraeg yn cael eu hannog i gyflwyno unrhyw ddeunyddiau, e.e. dogfennau PowerPoint, yn ddwyieithog.
Yn ystod y weminar, bydd y cadeirydd yn gwneud cyhoeddiad ar lafar i roi gwybod i gyfranogwyr eu bod yn gallu cyfrannu trwy’r bar sgwrsio yn Gymraeg / Saesneg a byddant yn cael ymateb yn eu dewis iaith. Caiff y neges hon ei chyfleu yn ein sleidiau hefyd, sy’n ymddangos ar y sgrin cyn i’r weminar ddechrau.
Mae cyfradd gadael uchel ar ein ‘cyrsiau’, fel llawer o rai eraill, o gofrestru i bresenoldeb (cyfradd tynnu’n ôl o 40-60%, ar gyfartaledd). Caiff y ‘cyrsiau’ eu recordio’n fyw a’u rhannu â chyfranogwyr a gofrestrodd i fynychu, ond na fynychon nhw ar y diwrnod. Wedyn, caiff y recordiad byw ei lanlwytho i’n gwefan gyda phenawdau Cymraeg ar gyfer pobl eraill sydd efallai eisiau cael mynediad at y cwrs ar adeg sy’n gyfleus.
Mae Safon 32 Safonau’r Gymraeg yn datgan bod yn rhaid i ddigwyddiadau cyhoeddus sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Credwn ein bod wedi gweithredu safon uchel o arfer da o ran ein ‘cyrsiau’, gyda chyflwynwyr a chyfranogwyr yn cael cyfle i gyfrannu yn yr iaith o’u dewis, ac mae’r ohebiaeth yn ddwyieithog.
Fodd bynnag, mae yna eithriad i Safon 32, sy’n datgan nad yw’r safon yn berthnasol i unrhyw recordiad o’r perfformiad, y cynhyrchiad, y seminar na’r cyflwyniad llafar. Rydym wedi llunio casgliad rhesymol, gan ein bod yn recordio’n cyrsiau i alluogi pobl i gymryd y ‘cwrs’ ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw, bod y meini prawf hyn yn berthnasol.
Mae Safon 33 yn datgan bod rhaid i holl ddeunydd cyhoeddusrwydd y corff fod yn ddwyieithog, a bod ein deunydd hyrwyddo ar gyfer y cyrsiau yn cael ei gynhyrchu’n ddwyieithog. Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod ein recordiadau o’n cyrsiau yn dod o dan y categori hwn gan nad yw’n ddeunydd cyhoeddusrwydd, ac yn hytrach, maent yn dod o dan Safon 32, yn unol â’r paragraff blaenorol.
Casgliad
Nod y papur hwn yw dogfennu trafodaethau a dealltwriaeth o Safonau’r Gymraeg hyd yma. Ei nod yw rhoi sicrwydd ar ein prosesau a gweithredu fel trywydd archwilio.
Mae’r Uned Penderfynyddion Iechyd Ehangach, sy’n cynnal RhICC, wedi datblygu Gweithdrefn Weithredu Safonol Sicrhau Ansawdd, a ddatblygwyd gyda chymorth Tîm y Gymraeg Iechyd Cyhoeddus Cymru. Caiff y ddogfen hon ei hadolygu’n rheolaidd gyda’r tîm.
Mae ansicrwydd ynglŷn â’n dehongliad, yn enwedig ynghylch ein dealltwriaeth o Safon 63 a 32 o ran ein ‘cyrsiau’. Mae Tîm y Gymraeg Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’n cefnogi i ddeall a chymhwyso’r ddeddf hyd yma. Gellir gofyn am fwy o arweiniad yn uniongyrchol gan Gomisiynydd y Gymraeg, os tybir bod hynny’n angenrheidiol.