Wella Tegwch Iechyd Trwy roi’r Dechrau Gorau mewn Bywyd i Bob Plentyn
Mae Platfform Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru (WHESP) wedi cyhoeddi Erthygl Sbotolau newydd, sy’n tynnu sylw at gamau gweithredu sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Mae’r erthygl sbotolau hon yn canolbwyntio ar ‘Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru: Sut mae iechyd a llesiant plant yn cael eu heffeithio a meysydd gweithredu’.
Mae tystiolaeth yn dangos bod yr argyfwng costau byw yn gwaethygu effeithiau tlodi plant ar ddatblygiad plant nawr, ac eu canlyniadau yn ddiweddarach mewn bywyd. Amlygodd dadansoddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru 11 maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu i leihau effaith tlodi plant a’r argyfwng costau byw ar annhegwch iechyd ymhlith plant yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gobeithio y gall y dadansoddiad yma helpu i lywio datblygiad Strategaeth Tlodi Plant ddrafft Cymru a darparu fframwaith ar gyfer blaenoriaethu iechyd a llesiant plant yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng tra hefyd yn gosod cyfeiriad ar gyfer dyfodol iachach a mwy cyfartal i Gymru.
Mae’r erthygl nodwedd yma yn crynhoi enghreifftiau o feysydd blaenoriaeth polisi ar gyfer gweithredu – ceir rhagor o fanylion yn yr adroddiad llawn.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.