Wedi lapio’n gynnes, ond dal yn oer gartref

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi briffiad sy’n dangos effaith tymereddau cartrefi ar iechyd a llesiant pobl ar incwm isel. Cynhaliwyd yr astudiaeth ym mis Mawrth 2023. Roedd yn cynnwys 15 o bobl o aelwydydd incwm isel yng Nghymru, yr oedd pob un ohonynt hefyd wedi hunan-adrodd cyflwr iechyd hirdymor.  

Roedd y canlyniadau’n mesur tymheredd cyfartalog yn ystod y dydd yn brif ystafell fyw’r cartref am wythnos. Dangoswyd nad oedd hanner ohonynt yn cyrraedd yr isafswm a argymhellir ar gyfer aelwydydd cyffredinol, sef 18 gradd Celsius (gwelwyd amrediad rhwng 13.3°C ac 16.9°C). Roedd gan yr hanner arall brif ystafelloedd byw â thymheredd uwchlaw 18 gradd Celsius (gwelwyd amrediad rhwng 18.3°C a 23.1°C).  

Wrth ddisgrifio eu profiadau yn ystod y gaeaf diweddaraf, dywedodd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr eu bod wedi treulio’r rhan fwyaf o’u hamser, os nad eu holl amser, gartref, a gwnaethant ddisgrifio teimlo’n oer. Dywedodd rhai cyfranogwyr fod rhai rhannau o’r cartref yn oerach nag eraill: 

“Galla i fynd yno [i fyny’r grisiau lle nad oes ffynhonnell wresogi] am awr, ond  ar ôl hynny, mae’n union yr un fath â mynd allan i’r cefn.”  

Clywodd yr astudiaeth fod bron pob cyfranogwr yn “cael trafferth” gyda chost gwresogi eu cartrefi. Dywedodd un cyfranogwr: 

“Wel, mae’r biliau’n mynd i bentyrru, a dyna’r hyn rydw i’n poeni amdano. Mae’n iawn troi’r gwres ymlaen, ond dych chi’n gwybod, allwch chi dalu amdano pan fydd y bil yn cyrraedd?”  

Gwnaeth pob un ohonynt ddisgrifio ymddygiadau â’r bwriad o gynhesu eu hunain yn gyntaf, yn hytrach na gwresogi’r ystafell neu’r cartref. Mae’r rhain yn cynnwys cerdded yn y fan a’r lle, gwisgo dillad ychwanegol yn y cartref, fel cotiau, hetiau a sgarffiau, neu ddefnyddio poteli dŵr poeth i gadw’n gynnes. Roedd rhai ohonynt hefyd yn disgrifio mynd heb hanfodion (fel bwyd), cyfyngu ar hobïau yn y cartref, a pheidio â gwahodd ymwelwyr i’r cartref am eu bod yn ceisio rheoli costau ynni.  

“Mae dyddiau pan fydda i’n dewis peidio â bwyta er mwyn i ni gael gwres.” 

Gwnaethant siarad am y rhwystredigaeth, y diffyg cymhelliant a’r effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl o ganlyniad i dymheredd eu cartref. 

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n ddigalonnus oherwydd eich bod chi’n oer bob dydd ac yna, dych chi’n gwybod, rydych chi’n pryderu’n barhaus am orwario ar eich bil cyfleustodau. Felly, dych chi’n gwybod, mae eich iechyd meddwl yn dioddef. Ydy, mae fy iechyd meddwl yn dioddef.” 

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig