Pandemig COVID-19 yng Nghymru: Bod yn agored i niwed dro ar ôl tro
Trwy gydol y pandemig, mae’r cysyniad o fod ‘yn agored i niwed’ wedi chwarae rôl bwysig yn y mesurau ymateb ac wedi rhoi mewnwelediad i realaeth bywyd y rheiny sydd wedi eu heffeithio fwyaf. Mae’n dangos pobl sydd wedi bod yn fwy tebygol nag eraill i ddioddef salwch a thrallod, a phobl ddylai gael blaenoriaeth o ran cael y brechlyn.
Roedd y weminar hon yn olrhain dealltwriaeth benodol o’r cysyniad wedi llywio’r ymateb i’r pandemig gan ofal iechyd, llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, a sefydliadau cymunedol yng Nghymru gyda ffocws ar ardal Abertawe. Diben dyfyniadau o bolisïau’r pandemig a chyn y pandemig yn ogystal ag o gyfweliadau yw dangos sut mae bod yn agored i niwed wedi cael ei ddeall a’r camau gwahanol a gymerwyd i ymdrin ag ef. Mae’r mewnwelediadau hyn yn awgrymu sut mae’r pendemig wedi cael effeithiau mor annheg ar boblogaeth Cymru.
Dyddiad
Gorffennaf 2022
Cyfrannu at ein fideos
A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.