Gwaith da, iechyd da: diogelu ein dyfodol
Nod y gynhadledd rithiol hon a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2021 oedd rhannu gwybodaeth ac ysgogi gweithredu i gynyddu mynediad at waith teg, da er mwyn gwella iechyd a thegwch iechyd, gyda ffocws ar bobl ifanc yng Nghymru.
Roedd gan y cynadleddwyr gyfle i glywed am yr effaith y mae COVID-19 wedi ei gael ar fywydau gwaith pobl. Roedd hefyd yn gyfle i ddod ynghyd i edrych ar natur gwaith da a sut gallwn weithio’n gydweithredol i sicrhau bod gan bobl ifanc, yn arbennig y rheiny sydd fwyaf agored i niwed, y cymorth a’r mynediad at waith da.
Dyddiad
Gorffennaf 2021
Cyfrannu at ein fideos
A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.