Effeithiau Newid Hinsawdd ar Iechyd yng Nghymru: Archwilio’r sylfaen dystiolaeth a nodi blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol
Mae Asesiad o’r Effaith ar Iechyd diweddar Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod mai newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i iechyd a llesiant y bydd Cymru’n ei wynebu yn y ganrif hon. Bydd deall, paratoi ar gyfer effeithiau newid hinsawdd ar iechyd ac addasu iddynt yn faes allweddol i’r system iechyd a phartneriaid dros y degawd nesaf.
Mae nifer o adroddiadau wedi rhannu mewnwelediadau a gwybodaeth am effeithiau newid hinsawdd ar iechyd ond a oes gennym yr holl dystiolaeth sydd ei hangen arnom i wneud newid go iawn? Ble mae’r bylchau o ran ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth? Pa gwestiynau sydd angen i ni eu gofyn i sicrhau mai’r strategaethau a’r dulliau rydym yn eu defnyddio yw’r rhai mwyaf effeithiol?
Daeth y gweminar hon â thystiolaeth gyfredol ynghyd ar effeithiau newid hinsawdd ar iechyd ledled Cymru gan gynnwys adroddiadau diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae newid hinsawdd yn mynd i gael effaith sylweddol ar iechyd a llesiant yng Nghymru – cafwyd cyfnodau o dywydd eithafol yn fwy aml yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf ac maent wedi effeithio ar seilwaith, gwasanaethau a llesiant corfforol a meddyliol y boblogaeth. Mae angen tystiolaeth gadarn arnom i helpu’r sector iechyd i addasu i’r newidiadau hyn.
Dyddiad
Mehefin 2024
Cyfrannu at ein fideos
A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.