Strategaeth Iechyd Rhyngwladol wedi’i hadnewyddu i helpu i greu Cymru decach, iachach
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi diweddaru ei Strategaeth Iechyd Rhyngwladol 2017 i adlewyrchu’r newidiadau sylweddol yn y dirwedd fyd-eang yn well a galluogi Strategaeth Hirdymor newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae Cymru yn rhannu nifer o’i heriau â’r gymuned ryngwladol gan gynnwys mynd i’r afael ag effeithiau iechyd yr argyfwng hinsawdd, effaith hirdymor pandemig Covid-19, anghydraddoldeb, iechyd meddwl a llesiant, a’r argyfwng costau byw.
Mae Strategaeth Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi sut y bydd y sefydliad yn gweithio gyda phartneriaid fel sefydliadau iechyd cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ac eraill i alluogi dysgu a gweithio mewn partneriaeth er enghraifft, drwy ddarparu Cymuned Ymarfer Iechyd Rhyngwladol.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.