Prosiect chwaraeon yn helpu rhagor o fenywod i fod yn egnïol

Mae Sports4All yn cynnig sesiynau gweithgareddau rhad ac am ddim i fenywod yng Nghaerdydd, ac yn annog menywod a merched Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol i wella’u lles drwy gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Cafodd Women Connect First £210,000 o gyllid amlflwyddyn drwy’r Cynllun Grant Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon sy’n cael ei ddarparu ar gyfer y Sector Lleol gan Cymru Gwrth-hiliol. Nod y cyllid yw helpu menywod a merched o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol i ddilyn ffyrdd egnïol o fyw; sy’n un o’r camau gweithredu allweddol yn yr adran Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon yng Nghynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru Wrth-hiliol.

Mae Women Connect First yn helpu i gyflawni’r nodau hynny drwy gynnig sesiynau gweithgareddau am ddim drwy Sports4All, gan gynnwys dosbarthiadau ioga, nofio a beicio. Fe’u bwriedir ar gyfer menywod a merched ifanc Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol sydd, yn aml, yn wynebu rhwystrau ychwanegol sy’n eu hatal rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.

Mwy o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig