Pobl ifanc Cymru yn arwain y ffordd gan hyrwyddo 30 mlynedd o Eco-Ysgolion

Mae cannoedd o filoedd o ddisgyblion yng Nghymru yn gweithredu ar newid hinsawdd wrth i raglen addysg Eco-Ysgolion ddathlu 30 mlynedd.

Mae Eco-Ysgolion yn un o’r rhaglenni ysgolion cynaliadwy byd-eang mwyaf – yn ymgysylltu miliynau o blant ar draws 73 o wledydd, gan ddechrau yn yr ystafell ddosbarth ac ehangu i’r gymuned er mwyn ymgysylltu â’r genhedlaeth nesaf mewn dysgu sy’n seiliedig ar weithredu.

Yng Nghymru, mae 90 y cant o ysgolion ar draws pob awdurdod lleol yn cymryd rhan yn y rhaglen Eco-Ysgolion. Mae hyn yn cyfateb i dros 400,000 o ddisgyblion – un o’r cyfraddau cyfranogi uchaf yn y byd!

Mae’r rhaglen Eco-Ysgolion yn grymuso ac yn ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w hysgol a’u cymuned ehangach, ac mae’n cefnogi’r dysgwyr i gynllunio a gweithredu camau cadarnhaol gan hyrwyddo gweithredu amgylcheddol yn eu hysgol.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig