Mynd i’r afael â phetruster brechu a chamwybodaeth yn diogelu iechyd cyhoeddus
Er mai brechiadau yw’r ffordd fwyaf effeithiol o achub bywydau a diogelu iechyd cyhoeddus ar draws y byd, gall petruster brechu, wedi’i ysgogi gan gamwybodaeth, leihau llwyddiant rhaglenni brechu, dileu clefydau, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ar hyn o bryd mae brechlynnau’n achub rhwng tair miliwn a hanner a phum miliwn o fywydau ledled y byd bob blwyddyn, ond nid yw argaeledd brechlynnau yn unig yn ddigon i gyrraedd pawb sy’n gymwys a rhaid i unrhyw raglen gael ei derbyn gan bobl a chymunedau i fod yn fwyaf effeithiol.
Mae’r adroddiad sy’n edrych ar brofiadau, polisïau, rhaglenni, a thystiolaeth o bob rhan o’r byd yn datgan er mai camwybodaeth ddigidol yw un o’r ysgogwyr mwyaf ar gyfer lleihau derbyn brechlynnau, ymddiriedaeth yw’r ysgogwr mwyaf ar gyfer derbyn ac yn aml gweithwyr iechyd proffesiynol yw’r ffynhonnell wybodaeth fwyaf dibynadwy.
Felly mae ymgyrchoedd cyfathrebu yn hanfodol ar gyfer rhaglenni brechu wrth ennill ymddiriedaeth a derbyniad pobl drwy roi gwybodaeth gredadwy, dylanwadu ar agweddau ac ymddygiad a chynhyrchu galw.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.