Mae’r gwahaniaethau o ran canlyniadau beichiogrwydd yn ‘annheg’
Mae arbenigwyr gwella iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Fuse, y Ganolfan Ymchwil Drosi mewn Iechyd Cyhoeddus, wedi tynnu sylw at wahaniaethau annheg mewn canlyniadau beichiogrwydd a’r rôl hanfodol y mae gwasanaethau mamolaeth yn ei chwarae wrth nodi ac addasu dulliau ar gyfer y rhieni hynny mewn grwpiau risg uwch.
Edrychodd yr ymchwil ar 35 o astudiaethau a thros 17 miliwn o feichiogrwydd yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon ac mae’n dangos bod pobl mewn galwedigaethau â chyflogau is â siawns 40 y cant yn uwch y bydd y beichiogrwydd yn arwain at y babi’n marw, yn cael ei eni’n rhy gynnar neu’n cael ei eni â phwysau geni isel, o gymharu â phobl mewn galwedigaethau â chyflog uwch.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.