Mae un o bob pump o bobl yng Nghymru yn gwneud newidiadau cadarnhaol i leihau’r risg o ddiabetes math 2

Mae arolwg newydd wedi canfod bod un o bob pump o bobl yng Nghymru, nad ydynt erioed wedi cael diagnosis o ddiabetes math 2, wedi gwneud newidiadau cadarnhaol i’w hymddygiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i leihau eu risg o ddatblygu’r cyflwr.


Yn ôl arolwg diweddaraf Amser i Siarad am Iechyd y Cyhoedd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn deall bod modd atal diabetes math 2 i raddau helaeth. Mae 45 y cant yn dweud ei fod yn ataliadwy iawn ac mae 42 y cant arall yn dweud ei fod yn ataliadwy i ryw raddau.


Fodd bynnag, amlygodd yr arolwg hefyd, er bod y rhan fwyaf o bobl (86 y cant) yn ymwybodol bod bod dros bwysau yn ffactor risg ar gyfer datblygu diabetes math 2, nad oedd llawer yn ymwybodol o ffactorau risg arwyddocaol eraill. Amlygwyd hyn gan y canlynol:
• 32 y cant o bobl yn ymwybodol bod cael diabetes yn ystod beichiogrwydd yn cynyddu’r risg
• 37 y cant yn cydnabod bod bod o ethnigrwydd De Asiaidd, Du Caribïaidd neu Ddu Affricanaidd yn cynyddu’r risg
• 42 y cant yn gwybod bod hanes o bwysedd gwaed uchel, trawiad ar y galon neu strôc yn cynyddu’r risg


Mae cymryd camau i ddeall lefel risg bersonol o ddatblygu diabetes math 2 yn gam cyntaf hollbwysig. Canfu’r arolwg fod 75 y cant o bobl yng Nghymru â diddordeb mewn defnyddio adnodd ar-lein i ddysgu pa mor agored i niwed ydyn nhw (33 y cant â diddordeb mawr; 42% â diddordeb cymharol fawr).

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig